Y Pwyllgor Busnes

 

Lleoliad:

Swyddfa'r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel

 

Dyddiad:

Dydd Mawrth, 29 Mai 2012

 

Amser:

08:30 - 08:54

 

 

 

Cofnodion: 

 

 

 

Aelodau’r Pwyllgor:

 

Rosemary Butler (Cadeirydd)

Jocelyn Davies

William Graham

Jane Hutt

Aled Roberts

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Anna Daniel (Clerc)

 

 

 

 

 

 

Eraill yn bresennol:

 

David Melding, y Dirprwy Lywydd

Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad

Sulafa Thomas, Pennaeth Pwyllgorau’r Cynulliad

Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaethau’r Siambr a Deddfwriaeth

Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat y Llywydd

Peter Greening, Llywodraeth Cymru

Claire Severn, Llywodraeth Cymru

 

 

 

 

<AI1>

1.  Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

 

Croesawodd y Llywydd Aled Roberts i’r cyfarfod fel Rheolwr Busnes newydd y Democratiaid Rhyddfrydol, a diolchodd i Peter Black am ei gyfraniad gwerthfawr i’r Pwyllgor Busnes yn ystod ei gyfnod fel Rheolwr Busnes y blaid honno. 

 

</AI1>

<AI2>

2.  Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

 

Nodwyd y cofnodion gan y Pwyllgor i’w cyhoeddi.

 

</AI2>

<AI3>

3.  Trefn Busnes

 

</AI3>

<AI4>

3(i)        Busnes yr wythnos hon

 

Ddydd Mawrth, cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

</AI4>

<AI5>

3(ii)       Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

 

Nododd y Pwyllgor amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

</AI5>

<AI6>

3(iii)      Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnal yr eitem a ganlyn ar 13 Mehefin 2012 yn lle 20 Mehefin 2012:

 

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar Un Corff Amgylcheddol (60 munud)

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnal yr eitem a ganlyn ar 20 Mehefin 2012 yn lle 13 Mehefin 2012:

 

·         Dadl ar Ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i Ddarpariaeth Tai Fforddiadwy yng Nghymru (60 munud)

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r eitemau o fusnes a ganlyn:

 

Dydd Mercher 27 Mehefin 2012

 

·         Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Roi Pwerau i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU (60 munud)

 

·         Dadl ar Ymchwiliad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i Weithredu Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (60 munud)

 

Penderfynodd y Pwyllgor ar drefn Busnes y Cynulliad.

 

</AI6>

<AI7>

4.  Deddfwriaeth

 

</AI7>

<AI8>

4(i)        Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid Llywodraeth Leol

 

Bu’r Pwyllgor Busnes yn trafod papur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid Llywodraeth Leol.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i’w ystyried. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol erbyn dydd Llun 25 Mehefin 2012, fel y gellir cynnal dadl ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn ar 26 Mehefin 2012. 

 

Cytunodd Arweinydd y Tŷ i roi rhagor o wybodaeth i’r Rheolwyr Busnes am sut y byddai pwerau i sefydlu cynlluniau ar gyfer lleihau’r dreth gyngor a materion eraill yn cael eu defnyddio, ac am y cyfleoedd ar gyfer craffu pellach gan y Cynulliad.

 

</AI8>

<AI9>

4(ii)       Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol: Biliau Cydgrynhoi - Papur i'w nodi

 

Nododd y Pwyllgor Busnes lythyr a anfonwyd gan y Cwnsler Cyffredinol mewn ymateb i gynigion drafft a gyflwynwyd ar gyfer Rheolau Sefydlog ar Filiau Cydgrynhoi. Nid yw’r Cwnsler Cyffredinol o’r farn y byddai’n briodol i bennu Rheolau Sefydlog ar hyn o bryd, gan ei fod yn bwriadu ystyried y broses gyfan yn fanwl er mwyn paratoi ar gyfer cyflwyno rhaglen o Filiau Cydgrynhoi. Croesawodd y Rheolwyr Busnes y cyfle i weld swyddogion y Cynulliad yn cydweithio’n agos â Swyddfa’r Cwnsler Cyffredinol wrth ddatblygu’r cynigion hyn. 

 

</AI9>

<AI10>

5.  Pwyllgorau

 

</AI10>

<AI11>

5(i)        Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Cais i gynnal cyfarfod ffurfiol ychwanegol yn ystod Sioe Frenhinol Cymru

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gymeradwyo cais y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i gynnal cyfarfod ffurfiol ychwanegol yn ystod Sioe Frenhinol Cymru. Cynhelir y cyfarfod hwn ddydd Mercher 25 Gorffennaf 2012.

 

</AI11>

<AI12>

6.  Rheolau Sefydlog

 

</AI12>

<AI13>

6(i)        Diwygiadau Amrywiol i'r Rheolau Sefydlog

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar newidiadau i Reolau Sefydlog 11.10, 17.3, 17.41 a 25.22 er mwyn cywiro anghysonderau neu sicrhau eglurder. Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn paratoi adroddiad drafft i’r Cynulliad i’w ystyried ochr yn ochr â’r Rheolau Sefydlog drafft ar gyfer Biliau Preifat.

 

</AI13>

<AI14>

7.  Cyfarfod Llawn

 

</AI14>

<AI15>

7(i)        Ailwampio sesiynau Cyfarfod Llawn dydd Mercher

 

Bu’r Rheolwyr Busnes yn trafod cynigion ar gyfer ailwampio ac amrywio busnes y Cynulliad ar brynhawn dydd Mercher. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ailystyried y mater unwaith eto yn dilyn ymgynghori pellach â’u grwpiau.

 

</AI15>

<AI16>

8.  Busnes Arall

 

</AI16>

<AI17>

8(i)        Trefniadau cyflwyno yn ystod toriad hanner tymor mis Mehefin

 

Cymeradwyodd y Pwyllgor Busnes y trefniadau cyflwyno arfaethedig ar gyfer y Gwasanaeth Deddfwriaeth a Gwasanaeth y Siambr yn ystod toriad y Sulgwyn.

 

</AI17>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>